English
We are currently in the process of making our entire website bilingual.

Unfortunately, this page has not been fully translated yet but will be soon. If you would like to help us translate this page sooner and contribute in a way that helps us reach more people through the website, please click on the button below. Alternatively, you can ask for this page to be translated and we will do our best to do so as soon as possible.

Blue logo - for the website.png

FICER TIM - ARDAL WEINIDOGAETH MYNYDD BEDWELLTE

Rydym yn chwilio am Ficer Tîm i ymuno â’n grŵp o eglwysi

Gyda phrif gyfrifoldeb am Sant Dingad, Tredegar Newydd a Sant Sannan, Bedwellte, rydym yn chwilio am offeiriad sy’n cofleidio gweinidogaeth drwy fod yn angerddol am y cymunedau y maent yn byw ynddynt.

  • Ydych chi’n blodeuo wrth weithio fel rhan o dîm?
  • Ydych chi’n gwerthfawrogi’n ddwfn fywyd ysbrydol, ewcharistaidd, litwrgaidd yr eglwys ac yn gallu helpu’r eglwys fyw ei bywyd o addoliad cynhwysol?
  • Ydych chi’n gallu chwilio am gyfleoedd am genhadaeth a’r dewrder i gamu i’r lleoedd hynny, a’n hannog ni mewn mentrau arloesol a chenhadol newydd?
  • Oes gennych galon am ardaloedd ddifreintiedig gydag ymdeimlad cryf o gymuned?

Yna, efallai bod Duw yn eich galw fel ein Ficer Tîm nesaf.

Gyda mynediad hawdd i Ffordd Pen y Cymoedd, Caerdydd a Bannau Brycheiniog rydym yn gymuned ôl-ddiwydiannol yng nghanol tirwedd syfrdanol y cymoedd. Byddwch yn ymuno â thîm blaengar a chefnogol sydd yn angerddol am ymuno â Duw yn ei genhadaeth.

Rydym yn ymdrechu i fod yn esgobaeth gynhwysol a chroesawn geisiadau gan bob clerigwr cymwys.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Parch Matt Davis,

07800 750259 neu mattdavisciw@gmail.com

Ffurflen gais a manylion llawn ar gael ar: https://monmouth.churchinwales.org.uk/en/about-us/jobs/

Dylid cyflwyno ceisiadau drwy ebost at: stellabailey@cinw.org.uk

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 6ed Mehefin 2025

Cyfweliadau i’w cynnal 20fed Mehefin 2025