Mae Priordy’r Santes Fair, Cas-gwent, yn bwrw ymlaen â phrosiect astudiaeth ddichonoldeb mawr, ar ôl cael £44,716.00 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Drwy'r prosiect hwn, nod Ardal Weinidogaeth Hafren Gwy yw sicrhau dyfodol cynaliadwy i Briordy'r Santes Fair, Cas-gwent, gan warchod ei dreftadaeth eithriadol a galluogi'r safle i wasanaethu cymuned ehangach a mwy amrywiol. Gweledigaeth y prosiect yw ailsefydlu'r Priordy yng nghalon bywyd y gymuned ac fel testun balchder i bobl leol, wrth gadw ei rôl fel man addoli ac fel un o’r adeiladau hanesyddol mwyaf arwyddocaol yng Nghymru.
Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn datblygu strategaeth glir, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer cadwraeth, atgyweirio, addasu a defnydd hirdymor yr adeilad. Bydd yn archwilio sut y gall y Santes Fair gefnogi dulliau ymgysylltu â threftadaeth, addysg, gwirfoddoli, gweithgareddau diwylliannol a llesiant cymunedol yn well, gan fynd i'r afael â heriau megis hygyrchedd, cyfleusterau, cynaliadwyedd amgylcheddol a chyflwr yr adeilad.
Bydd y prosiect yn creu map trywydd ymarferol ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol, gan sicrhau bod y Santes Fair yn parhau i fod yn ased treftadaeth gwerthfawr ac yn adnodd cymunedol bywiog ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Bydd y grant yn ariannu 69 y cant o gostau prosiect yr astudiaeth ddichonoldeb a gymeradwywyd, sef £64,716.00, a fu’n bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol Cymru: "Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y prosiect hwn yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb i ddatblygu cynllun hirdymor ar gyfer atgyweirio, cadwraeth a dyfodol cynaliadwy Priordy’r Santes Fair. Bydd yr astudiaeth yn helpu i lunio gweledigaeth hirdymor ar gyfer yr adeilad hanesyddol, gan ddiogelu rhan bwysig o dreftadaeth Cas-gwent a chefnogi ei rôl barhaus yng nghalon y gymuned."
Dywedodd Calum Glanville-Ellis, Swyddog Datblygu Eglwysi ar gyfer Esgobaeth Mynwy: “Rwyf wedi gweithio gyda'r tîm ymroddedig yn Ardal Weinidogaeth Hafren Gwy ers bron i flwyddyn, gan ddatblygu'r astudiaeth ddichonoldeb gymhleth a helaeth hon. Mae'r wobr hon wedi rhoi hwb i hyder y prosiect, ac rydym yn hynod ddiolchgar i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Fel y nodir yn y teitl, bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn ystyried sut y gallwn Adfer, Adnewyddu ac Ailgysylltu Priordy’r Santes Fair fel cartref i dreftadaeth, addoliad a chymuned yng Nghas-gwent. Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at weld sut y bydd pethau’n datblygu, wrth i ni weithio i adnewyddu adeilad eiconig a fu’n un dros dro yn hanesyddol.”
Dywedodd Ian Rees, Archddiacon Mynwy: “Mae’r Santes Fair yn adeilad hynod bwysig yn yr Esgobaeth ac yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae angen gwneud llawer o waith iddo, ond mae'n wych gweld cynnydd mor dda yn cael ei wneud o ran y cynlluniau, i ystyried y ffordd orau o'i wneud yn ‘addas i’r diben’ heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol. Mae tîm gwych yn gweithio ar hyn er mwyn helpu i sicrhau y gall y Santes Fair barhau i fod, a thyfu, yn lle y caiff yr efengyl ei rhannu a lle gall y gymuned ymgynnull.”
Dros y chwe mis nesaf, bydd ymgynghorwyr yn dechrau casglu gwybodaeth, bydd contractwyr yn llunio adroddiadau arbenigol, a chynhelir ymarferion ymgynghori â’r gymuned – a hyn oll gyda’r nod o adeiladu dyfodol strategol a chynaliadwy i Briordy’r Santes Fair.



