English
A crest with a shield-like design with a blue cross over it, gold cross in centre, topped with a white, mitre with red and gold edging

Teitl y Swydd: Caplan Archesgob Cymru

Cyflog: Mae hwn yn rôl gyda tâl a llety

Lleoliad: Bishopstow, Casnewydd

Pwrpas y Swydd

Mae’r Archesgob yn cael ei ethol o blith y chwe esgob esgobaethol sy'n gwasanaethu yng Nghymru. Cynhaliwyd yr etholiad diweddaraf ym mis Gorffennaf 2025 pan etholwyd Esgob Mynwy yn Archesgob. Mae hi'n parhau i wasanaethu fel Esgob Mynwy ac yn cael ei chefnogi gan Gaplan, Cynorthwyydd Gweithredol a Chynghorydd Materion Cyhoeddus.

Hanfod y rôl yw cefnogi'r Archesgob mewn perthynas â materion diwinyddol, litwrgaidd a bugeiliol sy'n ymwneud â'i gweinidogaeth yn yr esgobaeth, y dalaith ac ar draws y cymundeb Anglicanaidd.

Mae'r rôl yn cynnwys bod yn Weinidog Ffocal/Offeiriad Arloesi am yr hyn sy’n gyfwerth â dau ddiwrnod yr wythnos (gan gynnwys dyletswyddau ar y Sul) yn un o'r eglwysi, sef Sant Ioan, yn Ardal Gweinidogaeth Parc Tredegar. Gweler y proffil yn y pecyn cais hwn.

Hanfodol

  • Sgiliau bugeiliol a litwrgaidd cryf
  • Ymdeimlad o alwad i weinidogaeth sy’n ymwneud i raddau mwy â darparu cefnogaeth yn hytrach nag arfer rôl arwain
  • Ymrwymiad i'r lefelau uchaf o gyfrinachedd
  • Sgiliau trefnu cryf a phrofedig
  • Y gallu i weithio o dan bwysau a bod yn rhagweithiol pan fydd llai o bwysau o ran amser
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol datblygedig
  • Ymrwymiad i ragoriaeth
  • Offeiriad a ordeiniwyd i’r Eglwys yng Nghymru neu eglwys mewn cymundeb â hi
  • Os nad yw'n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg, parodrwydd i ddysgu i ddefnyddio Cymraeg litwrgaidd ac i fynd ati i ddysgu Cymraeg
  • Parodrwydd i weithio gyda strwythurau'r Eglwys yng Nghymru ac Esgobaeth Mynwy
  • Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru

Dymunol

  • Profiad o ddefnyddio SharePoint fel system storio ffeiliau

Cais

I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’i danfon i’r cyfeiriad e-bost: HR@cinw.org.uk

Dyddiad cau

30 Mawrth 2026 at 10.00 am

Dyddiadau Cyfweliad

17 Ebrill 2026 yn bersonol yn Bishopstow, Casnewydd

Lawrlwytho