English
We are currently in the process of making our entire website bilingual.

Unfortunately, this page has not been fully translated yet but will be soon. If you would like to help us translate this page sooner and contribute in a way that helps us reach more people through the website, please click on the button below. Alternatively, you can ask for this page to be translated and we will do our best to do so as soon as possible.

Rydym yn chwilio am arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd sydd â ffydd gref a chred yn Nuw a fydd yn gallu ein helpu i dyfu fel disgyblion, i adeiladu ar ein cryfderau ond hefyd ein helpu i fynd i’r afael â’n gwendidau.

Teimlwn taw nawr yw’r amser i groesawu newid a datblygu ein potensial am dyfiant ysbrydol, cenhadol a niferol.

Bydd gan y sawl yr hoffem am y rôl hwn:

  • Galon am gymuned, am genhadu ac efengylu ac am feithrin disgyblion.
  • Calon i wasanaethu, sydd yn hyderus, yn meddu ar sgiliau personol da a sydd yn barod i godi llewys ond heb golli golwg ar y pethau pwysig.
  • Sgiliau rhyngbersonol ardderchog gyda’r gallu i greu, cynnal a datblygu perthynas dda gyda phobl o bob oed, yn cynnwys ysgolion, pobl ifanc a’u teuluoedd.
  • Y weledigaeth i gydnabod cyfraniad a gwerth pob eglwys unigol, wrth geisio meithrin teimlad o undod a phwrpas ar draws yr ardal weinidogaeth gyfan.
  • Profiad fel arweinydd sy’n cyfathrebu’n dda ac sy’n sylweddoli pwysigrwydd gwaith tîm a gweinidogaeth gydweithredol.
  • Dyhead am y cyffro a’r her o sicrhau strwythur effeithiol a fydd yn caniatau i’r ardal weinidogaeth dyfu. Caiff hyn ei wneud gyda tîm ardal weinidogaeth o glerigwyr a lleyg arloesol a chefnogol.

Rydym yn ymdrechu i fod yn esgobaeth gynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bob clerigwr cymwysiedig

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Hybarch Ian Rees

ar (07983 684151) neu (archdeacon.monmouth@churchinwales.org.uk)

Ffurflen gais a phroffil llawn ar gael: https://monmouth.churchinwales.org.uk/cy/about-us/jobs/

Dylid cyflwyno ceisiadau trwy e-bost i: archdeacon.monmouth@churchinwales.org.uk

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Gorffennaf 29ain 2024

Dyddiad cyfweliad i'w gadarnhau