Canon Preswyl newydd i Gadeirlan Casnewydd
Rydym yn hapus i gyhoeddi taw Y Parch Andrew Lightbown fydd Canon Preswyl Cadeirlan Casnewydd yn Esgobaeth Mynwy.
Mae Andrew wedi ei ordeinio ers wyth mlynedd ac mae wedi gwasanaethu fel Rheithor Bywoliaeth Winslow ers 2016. Mae Bywoliaeth Winslow yn rhan o Eglwys Gynhwysol ac wedi ymrwymo i amrywiaeth ar draws yr eglwys. Mae Andrew yn ymddirieidolwr Eglwys Gynhwysol. Mae Andrew hefyd yn frwd dros Genhadaeth. Mae e’n diwtor mewn Cenhadaeth ac Efengyliaeth ar Local Ministry Pathway Esgobaeth Rhydychen ac mae wedi ymdrechu i sicrhau bod ymrwymiad i’r Pump Marc Cenhadaeth yn nodweddiadol o fywyd y fywoliaeth. Mae e’n edrych ymlaen at helpu’r gadeirlan ffurfio ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth.
Cyn iddo gael ei ordeinio gweithiodd Andrew fel Darlithydd Prifysgol ac fel gweithredwr yn y diwydiant Rheoli Cronfeydd.
Wrth ystyried ei benodiad dywedodd Andrew: “Pan gyrhaeddais ar gyfer y cyfweliadau teimlais gynhesrwydd, cariad hydynoed, tuag at adeilad y gadeirlan, tîm y gadeirlan a dinas Casnewydd. Rwy’n gobeithio y bydd fy ngweinidogaeth yn y gadeirlan wedi ei seilio ar gynhesrwydd a chariad bob amser.”
Dywedodd Deon Casnewydd, yr Hybarch Ian Black, “Rwyf wrth fy modd fod Andrew wedi derbyn y penodiad. Teimlodd pawb â gyfarfu ag e yn ystod y broses cyfweld yn agos ato yn syth ac roeddem yn hapus gyda’i frwdfrydedd dros ddod i Gasnewydd. Yn wir, rhoddodd aelodau’r côr 15 allan o 10 iddo pan gwrddon nhw ag ef. Edrychwn ymlaen at groesawu Andrew a Sallyanne yn y gwanwyn ac at weithio gyda fe yng ngwasanaeth Crist i helpu datblygu bywyd a ffydd cymuned y Gadeirlan.”
Dywedodd Esgob Cherry: “Mae Andrew yn dod â chyfoeth o brofiad a doethineb a fydd yn gaffaeliad i’r gadeirlan ac i Esgobaeth Mynwy. Edrychaf ymlaen yn arw at ei groesawu ef a’i deulu i Gasnewydd ac i weithio gydag ef yn yr amseroedd hyn o her a phosibilrwydd.”
Mae Andrew yn briod â Sallyanne, podiatregydd, ac mae ganddynt ddwy ferch, Katherine sy’n briod â Sam, a Lilly sydd wedi dyweddïo â Chloe. Mae ganddynt hefyd Samoyed blewog o’r enw Kim. Mae Andrew a Sallyanne yn gefnogwyr rygbi brwd iawn. Northampton Saints yw eu tîm lleol ond maent yn bwriadu treulio dipyn go lew o amser yn Rodney Parade! Mae gan Andrew a Sallyanne gysylltiadau â Chymru ac mae eu merch hynaf yn saethwr reiffl rhyngwladol dros Gymru
Bydd Andrew a Sallyanne yn symud i Gasnewydd ym mis Chwefror ac fe gaiff ei drwyddedu gan Esgob Cherry a’i sefydlu gan y Deon am 4.00pm ddydd Sul 6ed Mawrth 2022.
Diwedd.