Ficer Tîm - Ardal Weinidogaeth Mynydd Bedwellte

FICER TIM - ARDAL WEINIDOGAETH MYNYDD BEDWELLTE
Rydym yn chwilio am Ficer Tîm i ymuno â’n grŵp o eglwysi
Gyda phrif gyfrifoldeb am Sant Dingad, Tredegar Newydd a Sant Sannan, Bedwellte, rydym yn chwilio am offeiriad sy’n cofleidio gweinidogaeth drwy fod yn angerddol am y cymunedau y maent yn byw ynddynt.
- Ydych chi’n blodeuo wrth weithio fel rhan o dîm?
- Ydych chi’n gwerthfawrogi’n ddwfn fywyd ysbrydol, ewcharistaidd, litwrgaidd yr eglwys ac yn gallu helpu’r eglwys fyw ei bywyd o addoliad cynhwysol?
- Ydych chi’n gallu chwilio am gyfleoedd am genhadaeth a’r dewrder i gamu i’r lleoedd hynny, a’n hannog ni mewn mentrau arloesol a chenhadol newydd?
- Oes gennych galon am ardaloedd ddifreintiedig gydag ymdeimlad cryf o gymuned?
Yna, efallai bod Duw yn eich galw fel ein Ficer Tîm nesaf.
Gyda mynediad hawdd i Ffordd Pen y Cymoedd, Caerdydd a Bannau Brycheiniog rydym yn gymuned ôl-ddiwydiannol yng nghanol tirwedd syfrdanol y cymoedd. Byddwch yn ymuno â thîm blaengar a chefnogol sydd yn angerddol am ymuno â Duw yn ei genhadaeth.
Rydym yn ymdrechu i fod yn esgobaeth gynhwysol a chroesawn geisiadau gan bob clerigwr cymwys.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Parch Matt Davis,
07800 750259 neu mattdavisciw@gmail.com
Ffurflen gais a manylion llawn ar gael ar: https://monmouth.churchinwales.org.uk/en/about-us/jobs/
Dylid cyflwyno ceisiadau drwy ebost at: stellabailey@cinw.org.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 6ed Mehefin 2025
Cyfweliadau i’w cynnal 20fed Mehefin 2025