Ficer Tîm - Ardal Weinidogaeth Mers Mynwy
Oes gennych chi ffydd gref a’r angerdd i weld twf yn yr eglwys? Ydych chi eisiau byw a gweithio mewn tref hardd gyda hanes anhygoel?
Yna darllenwch ymlaen oherwydd basen ni’n hoffi i chi wybod mwy am yr ardal wych hon a’r bobl sy’n ei gwneud mor arbennig.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn disgyblaeth ac mewn datblygu addoliad? Ydych chi’n cael eich cyffroi gan gyfathrebu da, gan estyn allan at y rhai nad ydynt yn gyfarwydd ag eglwys, ac oes gennych chi’r angerdd ar gyfer gweinidogaeth trefol a gwledig? Ynghyd â manyleb y person a sgiliau hanfodol eraill basai atebion cadarnhaol i’r cwestiynau hyn yn eich gwneud yn addas ar gyfer ein tîm.
Mae Gororau Mynwy, sy’n cynnwys Trefynwy a’r ardal o’i chwmpas, yn chwilio am ficer tîm sydd eisiau bod yn rhan o dîm sydd yn tyfu! Yn tyfu yn ein perthynas â Duw a gyda phobl eraill ac yn tyfu yn ein gweinidogaeth gyda’n gilydd wrth i ni barhau i ddirnad y ffyrdd gorau o weithio a gweinidogaethu ar draws yr Ardal Weinidogaeth gyfan. Mae gennym ystod o draddodiadau eglwys a dulliau o weithio ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu rhywun i gynyddu’r doniau a’r sgiliau sydd gennym.
Rydym yn ymdrechu i fod yn esgobaeth gynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bob clerigwr cymwysiedig
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Parch Tim Dack,
ar 07958 022782 neu TimothyDack@cinw.org
Ffurflen gais a phroffil llawn ar gael: https://monmouth.churchinwales.org.uk/cy/about-us/jobs/
Dylid cyflwyno ceisiadau trwy e-bost i: archdeacon.monmouth@churchinwales.org.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 31ain Mawrth 2025
Cyfweliadau i'w cynnal yn fuan wedi hynny