Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth - Ardal Weinidogaeth Netherwent
Rydym yn chwilio am arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd sydd â ffydd gref a chred yn Nuw a fydd yn gallu ein helpu i dyfu fel disgyblion, i adeiladu ar ein cryfderau ond hefyd ein helpu i fynd i’r afael â’n gwendidau.
Teimlwn taw nawr yw’r amser i groesawu newid a datblygu ein potensial am dyfiant ysbrydol, cenhadol a niferol.
Bydd gan y sawl yr hoffem am y rôl hwn:
- Galon am gymuned, am genhadu ac efengylu ac am feithrin disgyblion.
- Calon i wasanaethu, sydd yn hyderus, yn meddu ar sgiliau personol da a sydd yn barod i godi llewys ond heb golli golwg ar y pethau pwysig.
- Sgiliau rhyngbersonol ardderchog gyda’r gallu i greu, cynnal a datblygu perthynas dda gyda phobl o bob oed, yn cynnwys ysgolion, pobl ifanc a’u teuluoedd.
- Y weledigaeth i gydnabod cyfraniad a gwerth pob eglwys unigol, wrth geisio meithrin teimlad o undod a phwrpas ar draws yr ardal weinidogaeth gyfan.
- Profiad fel arweinydd sy’n cyfathrebu’n dda ac sy’n sylweddoli pwysigrwydd gwaith tîm a gweinidogaeth gydweithredol.
- Dyhead am y cyffro a’r her o sicrhau strwythur effeithiol a fydd yn caniatau i’r ardal weinidogaeth dyfu. Caiff hyn ei wneud gyda tîm ardal weinidogaeth o glerigwyr a lleyg arloesol a chefnogol.
Rydym yn ymdrechu i fod yn esgobaeth gynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bob clerigwr cymwysiedig
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Hybarch Ian Rees
ar (07983 684151) neu (archdeacon.monmouth@churchinwales.org.uk)
Ffurflen gais a phroffil llawn ar gael: https://monmouth.churchinwales.org.uk/cy/about-us/jobs/
Dylid cyflwyno ceisiadau trwy e-bost i: archdeacon.monmouth@churchinwales.org.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Gorffennaf 29ain 2024
Dyddiad cyfweliad i'w gadarnhau