Cynghorydd Materion Cyhoeddus Archesgob Cymru
Teitl y Swydd: Cynghorydd Materion Cyhoeddus Archesgob Cymru
Sefydledig: Gradd E £39,904 y flwyddyn
Lleoliad: 2 Sgwâr Callaghan, a theithio rheolaidd i Gasnewydd
Math o Gontract: Parhaol
Yn adrodd i: Archesgob Cymru/Chyfarwyddwr Cenhadaeth a Strategaeth Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)
Mae archesgob yn cael ei ethol o blith y chwe esgob esgobaethol sy'n gwasanaethu yng Nghymru. Cynhaliwyd yr etholiad diweddaraf ym mis Gorffennaf eleni pan etholwyd Esgob Mynwy yn Archesgob. Mae hi'n parhau i wasanaethu fel Esgob Mynwy ac yn cael ei chefnogi gan Gynorthwyydd Gweithredol, Cynghorydd Materion Cyhoeddus a Chaplan.
Hanfod y rôl yw sicrhau bod yr archesgob yn cael ei briffio'n llawn ar faterion cyhoeddus ac yn cael cymorth gyda phapurau briffio, i ysgrifennu areithiau o dro i dro ac i drefnu a staffio cyfarfodydd gyda llywodraeth genedlaethol a lleol.
Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer rôl Cynghorydd Materion Cyhoeddus yr Archesgob. Fel rhan o'r rôl hon, byddwch yn gyfrifol am waith bob dydd Archesgob Cymru. Ar gyfer materion sy'n ymwneud â chyflogaeth, byddwch yn adrodd i Gyfarwyddwr Cenhadaeth a Strategaeth Corff y Cynrychiolwyr.
Hanfodol
- Hanes o weithio mewn rôl sydd wedi cynnwys rhoi cymorth materion cyhoeddus i uwch ffigwr cenedlaethol neu i9 sefydliad cenedlaethol
- Sgiliau trefnu cadarn ac amlwg
- Y gallu i weithio dan bwysau ac mewn modd rhagweithiol pan fydd llai o bwysau o ran amser
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol tra datblygedig
- Ymrwymiad i ragoriaeth
- Gradd neu gallu dangos lefel debyg o gyflawniad
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru
Dymunol
- Dealltwriaeth o'r Eglwys yng Nghymru, rôl esgobion a'i strwythurau llywodraethu.
- Profiad o ddefnyddio SharePoint fel system storio ffeiliau
- Dealltwriaeth o ddiben a strwythurau’r Eglwys yng Nghymru
- Y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl.
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Grahame Davies on HR@cinw.org.uk
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch CV a llythur eglurhaol I’r cyfeiriad e-bost: HR@cinw.org.uk
Dyddiad cau
23 Hydref 2025 at 10.00 yb
Dyddiadau Cyfweliad
12 Tachwedd 2025
Lawrlwytho