Caplan Archesgob Cymru
Teitl y Swydd: Caplan Archesgob Cymru
Sefydledig: Gradd F - £45,928 y flwyddyn
Lleoliad: Swyddfa Archesgob Cymru – Bishopstow, Casnewydd
Math o Gontract: Benodiad tymor penodol 3 blynedd
Yn adrodd i: Archesgob Cymru/ Prif Swyddog Gweithredu Corff Cynrychiolwyr Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)
Mae archesgob yn cael ei ethol o blith y chwe esgob esgobaethol sy'n gwasanaethu Mae archesgob yn cael ei ethol o blith y chwe esgob esgobaethol sy'n gwasanaethu yng Nghymru. Cynhaliwyd yr etholiad diweddaraf ym mis Gorffennaf eleni pan etholwyd Esgob Mynwy yn Archesgob. Mae hi'n parhau i wasanaethu fel Esgob Mynwy ac yn cael ei chefnogi gan Gynorthwyydd Gweithredol, Cynghorydd Materion Cyhoeddus a Chaplan.
Hanfod y rôl yw cefnogi'r archesgob mewn perthynas â materion diwinyddol, litwrgaidd a bugeiliol sy'n ymwneud â'i gweinidogaeth yn yr esgobaeth, y dalaith ac ar draws y cymundeb Anglicanaidd.
Hanfodol
Offeiriad ag enw da a ordeiniwyd i'r Eglwys yng Nghymru neu eglwys mewn cymundeb â hi sydd wedi bod mewn urddau offeiriad ers o leiaf bum mlynedd;
- Sgiliau trefnu cadarn ac amlwg
- Sgiliau bugeiliol a litwrgaidd cryf
- Y gallu i weithio dan bwysau a bod yn rhagweithiol pan fydd llai o bwysau o ran amser
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol hynod ddatblygedig
- Ymrwymiad i ragoriaeth
- Gradd, cymhwyster academaidd cyfwerth neu gefndir mewn diwinyddiaeth neu yn y weinidogaeth
- Parodrwydd i ddefnyddio rhywfaint o Gymraeg litwrgaidd
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru
Dymunol
- Dealltwriaeth o'r Eglwys yng Nghymru, rôl ei hesgobion a'i strwythurau llywodraethu.
- Parodrwydd i ddysgu Cymraeg
- Profiad o ddefnyddio SharePoint fel system storio ffeiliau
- Dealltwriaeth o ddiben a strwythurau’r Eglwys yng Nghymru
- Sgiliau Cymraeg/y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch llythur eglurhaol I’r cyfeiriad e-bost: HR@cinw.org.uk
Dyddiad cau
23 Hydref 2025 at 10.00 yb
Dyddiadau Cyfweliad
13 Tachwedd 2025
Lawrlwytho