Byddwch yn arwydd o atgyfodiad i’r rhai mwyaf anghenus – neges Pasg 2022
Yn ei neges Pasg mae Cherry Vann, Esgob Mynwy, yn ystyried pwysigrwydd ffydd i bobl Wcráin a’u hangen am gefnogaeth ysbrydol a chrefyddol wrth iddynt ailsefydlu yn y Deyrnas Unedig.
Y dydd o’r blaen cefais y fraint fawr o gwrdd â’r Tad Jacob, offeiriad Uniongred sy’n byw yng Nghaerdydd. Daw ei gynulleidfa o ran helaeth o Dde Cymru ac mae’n cynnwys pobl o Rwsia, Belarus ac Wcráin.
Trefnwyd y cyfarfod i drafod sut y gallai’r eglwysi yn Esgobaeth Mynwy helpu a chefnogi teuluoedd o Wcráin sy’n ffoi rhag y trais yn eu mamwlad i geisio diogelwch a lloches yn ein gwlad. Bu’r dymuniad i ni fel cenedl ac fel eglwys i gynnig croeso cynnes a hael yn amlwg mewn cynifer o sgyrsiau a gefais yn ddiweddar, ond roeddwn yn awyddus i ddeall ganddo beth a ystyriai oedd yr anghenion.
Roedd y sgwrs yn un eang. Fe wnaethom siarad am y ffordd orau i gefnogi teuluoedd sy’n croesawu teuluoedd i’w cartrefi a sut i ddod â theuluoedd o Wcráin o bob rhan o dde Cymru ynghyd; am ganolfannau croeso a’r pecynnau gofal ysbrydol y bwriadai eu paratoi a’u dosbarthu; am ein heglwysi a neuaddau eglwys yn fannau croeso ar gyfer gweddi ac ymgynnull cymdeithasol. A gallais ei hysbysu am y Gronfa Cyfrifoldeb Cymdeithasol yr ydym wedi ei sefydlu ac sydd ar gael i ddiwallu rhai o’r anghenion.
Yr hyn a ddaeth yn amlwg iawn wrth i ni siarad oedd lle canolog ffydd ac ymarfer crefyddol ar gyfer pobl Wcráin. Mae wedi ei ymwreiddio yn eu DNA; yn rhan annatod o’u bywydau beunyddiol. Mae gofyn am fendith neu weddi gan offeiriad yn cerdded lawr y stryd yn hollol naturiol ac arferol. Mae’n rhywbeth, meddai’r Tad Jacob, y byddem ni yn y gorllewin yn ei chael yn anodd ei ddeall.
Mae’r croeso a’r gofalu a’r holl help ymarferol y gallwn ei roi yn hanfodol a bydd yn parhau felly am fisoedd lawer, efallai hyd yn oed flynyddoedd. Ond yr un mor bwysig ar gyfer rhai sy’n ffoi o Wcráin yw’r gefnogaeth ysbrydol a chrefyddol y gallwn ei gynnig. Rhan o hynny fydd sicrhau fod ein heglwysi ar agor ac yn groesawgar, efallai gyda rhai o’r pecynnau gofal ysbrydol hynny y mae’r Tad Jacob yn eu paratoi. Ond yn bwysicaf oll bydd yn rhoi teuluoedd mewn cysylltiad â’r Tad Jacob a sicrhau y gallant gyrraedd yr Eglwys Uniongred yng Nghaerdydd ar gyfer addoli a chwmnïaeth.
Teimlais fy nghalon yn cael ei chyffwrdd a’i chynhesu wrth i’r Tad Jacob siarad. Mae’r hyn sy’n digwydd yn Wcráin yn arswydus tu hwnt i’n dychymyg a bydd gan bob un o’r rhai sy’n cyrraedd ein gwlad straeon torcalonnus i’w dweud. Mae Gwener y Groglith yn rhy amlwg o lawer – mae’r farwolaeth, y trallod, y trais a’r dioddefaint yn cael ei fyw a’i brofi mewn ffordd na allwn ddechrau ei dirnad. Ond yn y sgwrs honno gyda un o lond dwrn o offeiriad Uniongred yng Nghymru, teimlais arwyddion o atgyfodiad a newyddion da. Gallant ymddangos yn arwyddion pwl a chrynedig yn erbyn tywyllwch dudew yr hyn a dystiwn, ond maent yn arwyddion serch hynny.
Felly yr oedd ar Sul y Pasg – mae’r Crist atgyfodedig yn ymddangos i ddwy fenyw oedd wedi dychryn, daw at Mair sy’n credu mai’r garddwr yw ef ac mae’n ei galw arni wrth ei henw, mae’n cerdded i Emaus gyda dau ddisgybl gofidus ac yna’n diflannu, daw at y disgyblion sydd wedi ymgynnull mewn goruwchystafell dan glo, gan ofni am eu bywydau. Arwyddion bach o fywyd a golau a gobaith a llawenydd i rai, oedd yn dal i fod wedi’u llorio gan erchyllter gweld eu Harglwydd wedi ei groeshoelio.
Dyna’n union yw neges y Pasg – un o oleuni yn y tywyllwch, gobaith mewn trallod, llawenydd a heddwch mewn gofid a phoen. Nid yw’n gwadu’r croeshoeliad yn ei affwysedd, ond mae’n ei drawsnewid wrth i bobl ddod i weld golau a bywyd y Crist atgyfodedig yn eu bywydau bob dydd ac yn cael eu newid ganddo, gan bwyll bach.
Mynegodd y Tad Jacob ddiolch dwfn am y gefnogaeth yr oedd yn ei chael, nid yn unig ym mharodrwydd pobl yma i gynnig lloches a chymorth, ond ym mharodrwydd Cristnogion, yma yng Nghymru, i sefyll wrth ochr, i weddïo ac i ofalu ac i ymestyn allan mewn cariad a chymorth at eu brodyr a’u chwiorydd. ‘Nid wyf bellach yn teimlo ar ben fy hun’, meddai ‘ond wedi cysylltu ac yn cael fy nal mewn teulu Cristnogol ehangach.’
Yn ein ffordd fach ein hunain, a all ymddangos yn ansylweddol, gall pob un ohonom fod yn arwydd o atgyfodiad yn ein bywydau beunyddiol; gan ddod â gobaith a chysur, goleuni a bywyd i’r rhai yr ydym yn cwrdd â nhw, p’un ai o Wcráin ai peidio.
Boed i Dduw eich bendithio y Pasg hwn wrth i ni ddathlu’r newydd da fod Crist wedi atgyfodi. Mae wedi atgyfodi yn wir. Haleliwia!